Landscape                                                                                                                                    

 

DATGANIAD I’R WASG

 

Llywodraeth Cymru wedi ‘arllwys arian da ar ôl drwg’ i Kancoat, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

 

Anwybyddodd Llywodraeth Cymru ei diwydrwydd dyladwy ei hun wrth arllwys mwy na

£3 miliwn o arian cyhoeddus i gwmni yn Abertawe a fethodd yn y pen draw, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Roedd cwmni Kancoat yn gweithredu llinell gynhyrchu araenu coiliau alwminiwm, a ddefnyddiwyd i gynhyrchu caniau tun, caniau diod a thuniau erosol, yn Abertawe ers 2012.

 

Cafodd y cwmni gyfanswm o £3.4 miliwn o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys benthyciadau a grantiau.

 

Clywodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol bod adolygiad diwydrwydd dyladwy, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi dod i’r casgliad yr ymddengys bod achos busnes Kancoat yn wan ac yn anghyson, a bod y cynnig yn cynnwys cyfrifoldeb ar y llywodraeth i ymgymryd â risg landlord sylweddol yn ogystal.

 

Daeth i’r amlwg hefyd bod dwy ymdrech flaenorol i redeg cwmni tebyg ar y safle hefyd wedi methu.

 

Aeth y Cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Medi 2014, gyda cholledion o £1.5 miliwn o leiaf i’r pwrs cyhoeddus hyd yma, ac mae’r swm yn cynyddu.

 

Un thema allweddol a ddaeth i’r amlwg drwy gydol yr ymchwiliad oedd y diffyg eglurder a thryloywder o ran prosesau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru. 

 

Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o benderfyniadau mewn perthynas â chyllid busnes, fel ehangu’r diffiniadau o sectorau a’r amodau ar gyfer darparu ‘cyllid busnes ad-daladwy neu gyllid busnes ad-daladwy nad oes angen ei ad-dalu’, nad ydynt wedi’u cofnodi’n dda nac wedi’u cyfleu yn glir.

 

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod canllawiau llymach o ran nodi a lliniaru risgiau yn cael eu sefydlu, a bod angen egluro a chofnodi unrhyw benderfyniadau sy’n mynd yn groes i ddiwydrwydd dyladwy yn gwbl glir.

 

Nododd yr Aelodau hefyd fod rhai ymadroddion fel, ‘cyllid busnes ad-daladwy nad oes angen ei ad-dalu’ yn ddryslyd, ac mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio ei therminoleg i ddisgrifio’r hyn sy’n cael ei gynnig yn fwy cywir.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn dal gafael ar y brydles ar yr eiddo yn Abertawe fel sicrwydd ar gyfer rhyw gymaint o’r cymorth ariannol a gynigwyd ganddi, ond mae costau cynnal a chadw yn gysylltiedig â’r eiddo, a rhaid iddi unioni unrhyw newidiadau a wnaed o dan ofalaeth Kancoat os bydd yn gwerthu’r brydles ac yn adennill rhywfaint o’r costau.

 

Roedd y Pwyllgor yn bryderus o glywed bod y penderfyniad i gymryd y brydles yn seiliedig ar hen brisiad gan gyn-brydleswyr y safle ac, er gwaethaf derbyn cyngor yn ystod y broses diwydrwydd dyladwy, ni ofynnwyd am brisiad newydd, annibynnol.

 

"Buddsoddodd Llywodraeth Cymru yn Kancoat ar adeg a ddaeth yn fuan ar ôl yr argyfwng ariannol, pan oedd llawer o fusnesau yn cael trafferth i gael benthyciadau, ac roedd risgiau yn gyffredinol yn fwy nag y byddent o fewn hinsawdd economaidd mwy sefydlog.

 

"Ar adegau o’r fath, gall cefnogaeth gan y llywodraeth fod yn hwb i hyder, a rhoi’r droed ar y ris gyntaf sydd ei hangen ar gwmnïau i gynllunio a thyfu.

 

"Ond roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i arllwys arian i Kancoat y tu hwnt i’w diwydrwydd dyladwy ei hun, a hynny gan fethu â nodi nifer o risgiau posibl na’u lliniaru, a gwnaed hyn heb fawr o gofnodion na rhesymau wedi’u nodi.

 

"O ganlyniad i fethiant Kancoat, mae’r trethdalwr ar ei golled £1.5 miliwn, a gallai’r gost godi ymhellach.

 

"Rydym am weld asesiadau risg mwy cadarn gan Lywodraeth Cymru, dogfennaeth gliriach ynghylch materion allweddol, yn enwedig pan fyddant yn mynd yn groes i gyngor, ac am weld gwell diffiniadau o’r math o gefnogaeth a gynigir, a goblygiadau hynny i bwrs y wlad.

 

“Rydym yn falch bod yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnal archwiliad gwerth am arian ehangach o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran cyllid i fusnes yn ystod 2017, oherwydd bod y Pwyllgor yn pryderu fwyfwy ynghylch y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru wrth gefnogi busnesau yng Nghymru.

 

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

 

-     Y dylai’r penderfyniadau i fynd yn groes i gyngor yr adroddiad diwydrwydd dyladwy gael eu cofnodi’n glir yn nogfennaeth y prosiect.

-     Bod Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu canllawiau cadarn wedi’u diweddaru ar adnabod a lliniaru risgiau, sy’n adlewyrchu’r gwersi a ddysgwyd yn sgîl yr ymchwiliad hwn.

-     Bod canllawiau Llywodraeth Cymru o ran buddsoddiadau yn nodi’n glir bod angen cael prisiadau proffesiynol, annibynnol a diweddar ar unrhyw asedau a gynigir fel diogelwch cyfochrog, cyn cytuno ar unrhyw gyllid.